LLIEINIAU SYCHU LLESTRI Y PTA:

LLIEINIAU SYCHU LLESTRI Y PTA:

10th November 2013

Mae’r C.Rh.A wedi archebu llieiniau sychu llestri ysgol yn barod ar gyfer y Nadolig.

Mae’r disgyblion wedi tynnu lluniau o’u hunain a’u hathrawon ac mae’r rhain wedi eu hargraffu ar ddau liain sychu llestri i’w cadw ac i’w rhoi fel anrhegion.

Ceir un lliain sychu llestri ar gyfer y feithrin, derbyn, blynyddoedd 1 a 2 a cheir un arall ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 sef blynyddoedd 3, 4, 5 a 6. Cost un lliain bwrdd yw £3.

Er mwyn derbyn eich lliain bwrdd mewn amser ar gyfer y Nadolig, gofynnwn yn garedig i chi eu harchebu a thalu amdanynt erbyn dydd Llun, Tachwedd 18. Os ydym yn derbyn archeb ar ôl y dyddiad hwn, ni allwn sicrhau eich bod yn derbyn lliain.

Derbyniwn daliadau gydag arian neu gyda siec (yn daladwy i PTA Ysgol Gymraeg Cwmbrân.)

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr