Ein Stondin Salad:
24th October 2013
Hoffwn atgoffa'n disgyblion a'n rhieni am ein stondin salad yn yr ysgol.
Bob diwrnod, mae amrywiaeth o lysiau ynghyd â bara, ffrwythau, wyau a chigoedd gwahanol yn cael eu paratoi ar gyfer ein disgyblion.
Mae'r stondin salad yn boblogaidd iawn gyda disgyblion ar draws yr ysgol ac mae'n gyfle gwych iddynt fwyta rhai o'u pump bob dydd.