Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

22nd September 2013

Dyma rai pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yn ystod yr wythnos.

Fydd dim Clwb Plant y Tri Arth nos Lun a nos Fawrth gan fod nosweithiau rhieni ar y nosweithiau hyn.

Dydd Llun:
Noson Rieni:
Bydd cyfle i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 ymaelodi gyda'r Urdd yn y neuadd gyda Miss Evans. (£6)

Dydd Mawrth:
Noson Rieni:
Bydd cyfle i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 ymaelodi gyda'r Urdd yn y neuadd gyda Miss Evans. (£6)

Dydd Gwener:
Diwrnod Gwisg Anffurfiol.
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad eu hunain ddydd Gwener. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o 50c tuat at ein helusennau eleni sef 'Ambiwlans Awyr Cymru' ac ME.

Bydd clybiau ar ol ysgol yn dechrau ar ol y nosweithiau rhieni wythnos nesaf.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr