Diwrnod Siwmper Nadolig:

Y tri arth

28th November 2023

Ar ddydd Iau, Rhagfyr 7fed, byddwn yn cymryd rhan mewn diwrnod siwmper Nadolig.

Gall y disgyblion wisgo siwmper Nadolig / addurn Nadoligaidd / gwisg anffurfiol i’r ysgol os ydynt yn dymuno.

Eleni, mae’r Cyngor Ysgol wedi penderfynu y byddwn yn helpu pobl yn y gymuned leol gan gasglu eitemau ar gyfer y banc bwyd. Mae’r banc bwyd yn gofyn yn garedig am gyfraniad o duniau e.e. cig, pysgod neu lysiau, pasta a nwyddau ymolchi.

Diolch am eich cefnogaeth.


^yn ôl i'r brif restr