Plant Mewn Angen:

Logo Plant Mewn Angen

7th November 2023

Byddwn yn codi arian ar gyfer Plant Mewn Angen ar ddydd Gwener, Tachwedd 17.

Mae'r Cyngor Ysgol wedi trefnu cystadleuaeth lliwio er mwyn codi arian ar gyfer Plant Mewn Angen. Mi fydd y darn lliwio a’r manylion i gyd yn cael eu danfon adref gyda phob disgybl heddiw. (7.11.2023)

Yn ogystal â’r gystadleuaeth lliwio, mae’r Cyngor Ysgol wedi penderfynu y gall disgyblion wisgo eu pyjamas i’r ysgol ar ddydd Gwener, 17eg o Dachwedd. (Neu gwisg anffurfiol os ydynt yn dymuno.)

Yn ystod y dydd, bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn heriau corfforol, felly sicrhewch bod eich plentyn hefyd yn gwisgo esgidiau ymarfer corff. Gofynnwn yn garedig am rodd ariannol tuag at ‘Plant Mewn Angen’ os yn bosib.

Diolch yn fawr.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr