Diwrnod cwpan y byd:

Diwrnod cwpan y byd:

14th June 2010

Ddydd Gwener diwethaf oedd ein diwrnod Cwpan y Byd. Daeth pawb i mewn i’r ysgol mewn dillad gwahanol o'r gwledydd gwahanol.

Cafon ni llawer o hwyl trwy’r dydd. Gan ddechrau yn y bore, cafon ni cyflwyniad annhygoel gan flwyddyn 6 yn esbonio i ni am y problemau sy’n mynd ymlaen yn Ne Africa. Mae ymgyrch o’r enw ‘Send my Friend to school’ wedi cael ei wneud gan Fifa i helpu plant heb addysg. Gwasgwch y linc isod am fwy o wybodaeth:

Ar ôl hwnna, aethon ni allan ar yr iard a mewn i‘n dosbarthiadau gwahanol. Cafon ni seremoni agoriadol ac aethon ni o gwmpas yr ysgol yn gwaeddi am ein timoedd. Wedyn am dipyn bach o hwyl, cafodd pawb yn yr adran iau gyfle i sgorio gôl i’w tîm. Cymerodd bawb, yn cynnwys yr athrawon. Yn ystod y prynhawn, aethon ni i eistedd lawr i wylio’r seremoni agoriadol. Wel, am ddydd hwyl.

Nodyn ychwanegol: Rydyn yn meddwl am Zezani Mandela bu farw mewn damwain car yn ystod y digwyddiadau yma.

Diolch, Tomos Rodrigues.
(Prif fachgen)


Related Links


^yn ôl i'r brif restr