Llythyr Mr Jones

Llythyr Mr Jones

16th July 2010

Llythyr olaf Tymor yr Haf

Mae bywyd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân wedi bod yn brysur iawn y tymor yma. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r holl staff am eu hymroddiad a’u gwaith caled i’r ysgol. Rwy’n gwerthfawrogi fy staff ardderchog gan eu bod yn barod iawn i drefnu ac i gefnogi’r gweithgareddau allgyrsiol di-ri. Mae nifer o’r gweithgareddau gan gynnwys yr ymarferion chwaraeon, y canu a Chlwb yr Urdd yn digwydd ar ôl oriau gwaith.


Llongyfarchiadau i Miss Catrin Evans a’r Eco-Bwyllgor am eu llwyddiant mawr y tymor yma. Mae Ysgol Gymraeg Cwmbrân wedi ennill gwobr eco-ysgolion ‘Y Faner Werdd’. Mae’r ‘Faner Werdd’ yn wobr sy’n cael ei roi i ysgolion sydd wedi bodloni holl feini prawf y rhaglen eco-ysgolion ac sy’n cymryd rhan lawn yn y camau gweithredu amgylcheddol a chynaliadwy.

Diolch yn fawr i Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol am eu gwaith yn ystod y flwyddyn. Trefnwyd disgos yn rheolaidd ac roedd ymweliad Blwyddyn 6 i’r ganolfan fowlio yn llwyddiant mawr.
Codwyd £705.43 yn y Ffair Haf a chododd y golchi ceir £126
Diolch hefyd i’r rhieni sydd wedi helpu’r athrawon gyda’r tripiau ysgol.

Y flwyddyn hon yr ydym wedi bod yn casglu arian i’r elusen Jennifer Trust. Cyfanswm y casgliad yw £601. Da iawn yn wir! Ym mis Medi byddwn yn cefnogi’r elusen PKU (Cymdeithas Cenedlaethol i blant sydd yn dioddef o Phenylketonuria).

Roedd y gweithgareddau cadw’n heini yn llwyddiannus iawn eleni eto. Casglwyd dros £1000. Diolch i’r disgyblion am eu gwaith caled yn casglu arian noddi.

Mae rhaglen S4C ‘Cyw’ wedi gofyn os oes 10 plentyn hyderus o flwyddyn 1 neu 2 yn rhydd i gael eu ffilmio yn Fferm Greenmeadow ar y 29ain o Awst. Os oes gennych ddiddordeb cysylltwch gyda ni cyn diwedd yr wythnos.

Byddwn yn ffarwelio â Miss Elin Hopkins ein Dirprwy Bennaeth ar ddiwedd y tymor. Hoffwn ddiolch yn fawr i Miss Hopkins am ei hymroddiad i Ysgol Gymraeg Cwmbrân . Dymunwn y gorau iddi wrth iddi ddechrau ei swydd newydd yn y Bari ym mis Medi. Dymunwn y gorau hefyd i Mr Rhys Griffiths wrth iddo symud yn ôl i Abertawe gyda’i deulu newydd yn yr Haf.

Bydd Mrs Bethan Long yn dychwelyd i’r ysgol ym mis Medi yn dilyn ei chyfnod ar famolaeth. Croesawn hefyd Miss Katie Thomas a Mr Geraint Passmore at ein teulu yma yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân. Bydd Miss Thomas yn addysgu’r dosbarth Derbyn a bydd Mr Passmore yn addysgu yn yr Adran Iau.

Yr ydym wedi derbyn gwybodaeth gan yr Adran Addysg yn nodi y bydd ysgolion Cymru yn derbyn 5 diwrnod o hyfforddiant mewn swydd y flwyddyn academaidd nesaf. Yr ydym wedi clustnodi 4 diwrnod o hyfforddiant ar gyfer y tymor nesaf. Byddwn yn clustnodi’r dyddiad ar gyfer y diwrnod olaf cyn gynted â phosibl.

2ail ar 3ydd o Fedi
11eg o Hydref a’r 1af o Dachwedd

Rwyf wedi trefnu bod Mrs Liz Russell (nyrs yr ysgol) ar gael i siarad gyda ni am llau pen ac i roi cyngor a gwybodaeth i chi gan ateb rhai o’ch cwestiynau.
Cynhelir cyfarfod i bawb yn y neuadd am 9.15 o’r gloch ar fore dydd Mercher y 15fed o Fedi.

Mae dosbarthiadau Cymraeg i’r rhieni wedi eu trefnu ar gyfer mis Medi. Cynhelir y gwersi yn yr ysgol ar ddydd Iau (4pm-6pm).

Diolch yn fawr i chi’r rhieni am eich cefnogaeth yn ystod y tymor a’r flwyddyn. Mae eich plant chi wedi bod yn ardderchog y flwyddyn hon a dylech fod yn falch iawn ohonynt i gyd. Mae nifer fawr o ymwelwyr i’r ysgol wedi sylwi ac wedi nodi pa mor dda yw ymddygiad a pha mor gwrtais yw plant Ysgol Gymraeg Cwmbrân yn y dosbarth ac ar yr iard.


^yn ôl i'r brif restr