Trefniadau'r wythnos:
6th July 2010
Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn ystod yr wythnos:
Dydd Llun:
Gwersi Computer Explorers i'r plant.
(3:30-4:30)
Dim gwersi oedolion.
Côr yr Eisteddfod yn canu yn Neuadd Dewi Sant. 7 o'r gloch. (Rhieni i gasglu'r plant o'r neuadd am 9:30 yh)
Dydd Mawrth: 
Plant blwyddyn 7 yn dod i wneud 'Hawl i holi' gyda phlant blwyddyn 6. 
Gwasanaeth dosbarth Mr Griffiths. 9:10 yb. 
Dim clwb chwaraeon ar ôl ysgol.
Noson agored. 
Plant blwyddyn 5 yn mynd i Neuadd Dewi Sant er mwyn gweld cerddorfa Cenedlaethol Cymru yn perfformio. 
Dydd Mercher:
Eisteddfod ysgol. 
Dim clwb yr Urdd. 
Ymarfer côr tan 5 o'r gloch. 
Blwyddyn 6 yn mynd i fowlio. 
(4:30-6:00)
Dydd Iau:
Dim ymarfer côr.
Trip blwyddyn 5 a 6 i Heatherton.
(Gadael am 8:30 / Yn ôl yn yr ysgol erbyn 5. Bydd angen pecyn cinio, digon o ddwr ac eli haul ar y plant.)
Dydd Gwener:
Blwyddyn 6 i Sain Ffagan i weld y ddrama 'Gair am Aur.'
Bydd angen pecyn bwyd ar y plant y diwrnod hwnnw. 
Diolch yn fawr.
