Cyngerdd Côr Llanofer yn y Congress, Cwmbrân:

Cyngerdd Côr Llanofer yn y Congress, Cwmbrân:

26th May 2010

Dyma wybodaeth am y gyngerdd nos Iau:

Bydd ymarfer byr ar ôl ysgol nos Iau er mwyn i ni fynd dros y caneuon y byddwn yn canu yn y gyngerdd. Ymarfer byr fydd hi, tan 4:15 yh.

Mi fydd y cyngerdd yn cychwyn am 7:00, felly a wnewch chi ddod a’ch plentyn i’r Theatr erbyn 6:30 yn ei gwisg Côr Llanofer, sef, trwsus du, sannau du, esgidiau du a chrys polo Côr Llanofer. Rwyf wedi archebu mwy o grysau polo ar gyfer nos Iau i’r plant sydd heb grys ac mi wnaf ei dosbarthu yn ystod y dydd ar ddydd Iau.

Wedi i’r plant ganu, byddwn yn dod yn ôl mewn i eistedd yn y gynulleidfa er mwyn gwylio’r cyngerdd. Mae tocynnau ar werth i chi fel rhieni o’r swyddfa docynnau yn y Congress.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr