Dyddiadau pwysig blwyddyn 6:
26th May 2010
Gan fod llawer o bethau pwysig yn digwydd dros yr ychydig wythnosau nesaf sydd gyda ni ar ôl yn yr ysgol, teimlaf ei bod yn bwysig eich atgoffa o rai o’r dyddiadau hynny:
Mehefin y 9fed: 	
Mae un o athrawon Gwynllyw yn dod i’r ysgol i fesur y plant ar gyfer gwisg ysgol yn ystod y dydd. 
Mehefin 22ain: 	
Mae athrawon Gwynllyw yn dod i’r ysgol er mwyn gwerthu gwisg ysgol i’r rhieni. 5 o’r gloch yn y neuadd. (Ysgol Gymraeg Cwmbrân)
Mehefin 24ain:	
Bydd plant blwyddyn 6 yn mynd i Wynllyw ar gyfer diwrnod o wersi. (Does dim angen caniatâd yma gan eich bod wedi rhoi caniatâd ar ddechrau’r flwyddyn.)
Mehefin 29ain: 	
Cyfarfod i’r rhieni yng Ngwynllyw. (Ceir cyfle i dalu am Lanllyn yma)
Gorffennaf 8fed:	
Taith flynyddol blwyddyn 5 a 6. (Mwy o fanylion i ddilyn)
Gorffennaf 15: 	
Gwasanaeth gadael blwyddyn 6. 
Diolch, Miss Passmore.
