Wythnos Cymorth Cristnogol:

Wythnos Cymorth Cristnogol:

20th May 2010

Wythnos diwethaf, roedd Cymorth Cristnogol yn cael wythnos arbennig er mwyn casglu arian.

Edrychon ni ar waith y mudiad yn ystod yr wythnos a dyma beth sydd gyda Rhys Savagar o flwyddyn 6 i ddweud am eu gwaith :

Elusen Cristnogol yw cymorth Cristnogol sy’n helpu i wella ansawdd bywyd rhai pobl o’r byd.
Felly os gwelwch yn dda, rhowch arian i elusen Cymorth Cristnogol. Maen nhw’n helpu pobl mewn angen.

Nid dim ond y Cristnogion sy'n cael help–mae’r Cristnogion yn helpu pobl o grefydd arall hefyd.

Dyma rai o’r pethau maen nhw’n gwneud:

1. Mae Cymorth Cristnogol yn codi arian i helpu pobl mewn angen.
2. Un o’r ffyrdd maen nhw'n neud hwn yw trwy helpu pobl, yn enwedig y menywod.
3. Maen nhw’n trio rhoi bwyd iddyn nhw oherwydd nhw angen cerdded milltiroedd i nol bwyd a dyw e ddim yn deg.

Felly helpwch nhw i fyw yn iach. Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr