Drymiwr Affricanaidd:

Drymiwr Affricanaidd:

18th May 2010

Wythnos ddiwethaf, daeth drymiwr Affricanaidd i weithio gyda'r adran iau. Dwi'n siwr fod pawb yn cytuno fod y gweithdy yn llawer o hwyl!

Wythnos ddiwethaf, daeth drymiwr Affricanaidd i weithio gyda'r adran iau. Aeth gyda phob dosbarth. Roedd pawb wedi cael hwyl ac erbyn diwedd y dydd, roedd pawb wedi mwynhau!

Daeth y dyn yma gyda drymiau o bob math, hefyd llawer o offer newydd a phethau Affricanaidd doedd neb wedi clywed am!

Ar ddiwedd y dydd, roedd gwledd gyda gweddill yr ysgol gan fod blwyddyn 6 wedi bod yn gweithio gyda'r drymiwr drwy'r prynhawn i wneud sioe. Dywedodd pawb ym mlwyddyn 6 y byddan nhw eisiau gwneud y gweithgareddau hyn eto! Cafodd bawb hwyl!

Diolch yn fawr! (Tomos Rodrigues)


^yn ôl i'r brif restr