Trefniadau'r wythnos:

Trefniadau'r wythnos:

22nd March 2010

Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn ystod yr wythnos.

Llythyren yr wythnos ar gyfer y dosbarthiadau derbyn yw 'ch' am 'chwech' a 'chwilen'.

Dydd Llun:
Diwrnod Oes Fictoria: Gall y plant ddod i'r ysgol yn eu dillad Oes Fictoria ar gyfer diwrnod o wersi o'r cyfnod.

Clybiau ar ôl ysgol:

Nos Fawrth: Clwb rygbi ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Nos Fercher:
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
Ymarfer côr i'r rheiny sy'n mynd i Cork tan 5 o'r gloch.

Nos Iau:
Ymarfer côr Llanofer tan 5 o'r gloch.

Diwrnod ola'r tymor. Bydd diwrnod o hyfforddiant i'r athrawon ddydd Gwener. Ni fydd ysgol i'r plant ar y diwrnod hwn.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr