Trefniadau'r wythnos:

Trefniadau'r wythnos:

15th January 2010

Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn yr ysgol wythnos nesaf: (Dechrau 18fed o Ionawr)

Llythyren yr wythnos ar gyfer y feithrin yw 'g' ar gyfer 'glas' a 'gwyrdd'.

Gan ein bod wedi colli cyfle i gael parti'r adran iau eto wythnos diwethaf, bydd y parti nawr yn digwydd dydd Mawrth, y 19eg o Ionawr a gall nlant yr adran iau wisgo eu dillau eu hunain i’r ysgol.

Bydd clybiau ar ôl ysgol yn ail ddechrau’r wythnos nesaf:

Nos Fawrth: Clwb rygbi ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Nos Fercher: Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
Nos Iau: Ymarfer côr tan 5.

Dydd Gwener:
Bydd diwrnod gwisg anffurfiol ar gyfer yr ysgol gyfan, yn codi arian i'r Urdd. Gall y plant ddod i'r ysgol yn eu dillad eu hunain (coch, gwyn a gwyrdd) a bydd y cyfraniad o 50c yn mynd tuag at yr Urdd.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr