Newyddion eira:

Newyddion eira:

11th January 2010

Newyddion dydd Mawrth ar y wefan am 7.30am.

Rydym i gyd yn falch o gael dod yn ôl i’r ysgol ar ôl yr holl eira’r wythnos diwethaf. Yr wyf yn gobeithio na fydd y tywydd yn effeithio arnom yn ormodol am weddill yr wythnos yma. Mae’r rhagolygon yn dangos eira trwm ar gyfer prynhawn yfory.

Bydd y wefan yn cael ei diweddaru’n ddyddiol a bydd unrhyw benderfyniad am gau’r ysgol yn cael ei wneud mor fuan â phosibl ar y diwrnod.

Bydd y glwyd ar flaen yr ysgol yn parhau i fod ar gau am 8.30am yfory a bydd y fynedfa yma’n cael ei ddefnyddio gan gerddwyr yn unig. Dyma fydd yr unig fynedfa a fydd ar agor heddiw ac yfory. Bydd y fynedfa wrth ymyl maes parcio’r staff a’r glwyd sydd wrth ymyl yr ardd ar gau. Fe fydd y disgyblion gan gynnwys plant y dosbarth Meithrin, yn mynd i mewn i’r adeilad trwy’r drws ar ochr yr adeilad.


^yn ôl i'r brif restr