Cyngerdd a pharti Nadolig yr adran iau:

Cyngerdd a pharti Nadolig yr adran iau:

8th December 2009

Mae diwedd y tymor bron yma sy'n golygu amser prysur iawn i bawb.

Cynhelir cyngerdd Nadolig yr adran iau nos Fercher nesaf, y 15fed o Ragfyr yn Eglwys St. Gabriel.

Bydd y gyngerdd yn dechrau am 6:30 ond gofynnwn yn garedig i chi ddod a'r plant yno erbyn 6, yn eu gwisg ysgol neu'r wisg ar gyfer y gyngerdd.

Cynhelir parti Nadolig yr adran iau ar y dydd Llun olaf, sef y 21ain o Ragfyr. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £1 tuag at y parti.

Gall y plant ddod i'r ysgol yn eu dillad eu hunain y diwrnod hwnnw.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr