Gem criced:

19th June 2009

Dyma adroddiad ar y gem griced gan flwyddyn 5:

Dydd Iau yr 11eg o Fehefin 2009, chwaraeodd Blwyddyn 5 yn erbyn Blwyddyn 6 ar gae yr ysgol. Mr Rock oedd dyfarnwr y gem.

Daeth yr holl ysgol allan i wylio y gem criced gyffrous! Batiodd Blwyddyn 5 yn gyntaf gyda Thomas W (y capten) a Rhys S. Roedd Blwyddyn 6 yn maesu yn ardderchog - daliodd Eleri sawl pel! Wedyn, batiodd Iestyn a Carl - roedden nhw yn wych! Cafon nhw dair 6 a dathlodd y dorf yn wyllt. Nesaf daeth Abbie a Jacob ar y cae. Bation nhw fel Paul Collingwood yn y gemau Twenty20! Nesaf ar oedd Leo ac Ethan - cafon nhw sgor uchel iawn!

Yn olaf, batiodd Ieuan a Bethan - Cafon nhw sgor dda! Nesaf oedd Blwyddyn 6! Dechreuon nhw gyda Lewis W (C) a Louis W – sgor dda ar y cyfan! Chelsea ac Eleri nesaf - sgor eithriadol o dda! Da iawn chi ferched! Clapiodd y dorf am Flwyddyn 6 yn wyllt! Daeth Jay a Delyth ymlaen nawr. Maesodd Blwyddyn 5 yn wych! Canodd y dorf Blwyddyn 5 fel y Rhufeinwyr yn y Colosseum yn Rhufain. Ymlaen nesaf daeth Joseph a Dewi – hedfanodd y bel fel roced yn yr awyr! Yn olaf i fatio cyn yr egwyl oedd Lewis a Ricky. Roedd Blwyddyn 5 dal yn maesu yn fendigedig! Neidiodd Ieuan fel cath yn chasio aderyn i stopio Eleri rhag gael chwech! Meddyliodd y dorf pwy oedd yn mynd i ennill.

Yn yr ail dro daeth Blwyddyn 5 arno i fatio. Roedd safon y batio yn uchel iawn! Gwylltiodd y dorf fel haid o eliffantod! Wnaeth Blwyddyn 6 yn fendigedig hefyd! Y sgor derfynol oedd Blwyddyn 5 gyda 133 a Blwyddyn 6 gyda 112 - sgor agos iawn. Roedd pawb yn ysgwyd llaw a llongyfarch ei gilydd. Diolch i Mr Rock am drefnu y gem gyffrous a chafodd pawb hwyl a sbri. Da iawn Flwyddyn 5 a Blwyddyn 6!


^yn ôl i'r brif restr