Iechyd a Diogelwch

15th July 2009

Newyddion

Diolch yn fawr i bawb am eich cefnogaeth yn dilyn y llythyr gwybodaeth a aeth allan am y ffliw moch. Mae’n falch iawn gen i ddweud bod y rhiant a oedd yn dioddef o symptomau’r ffliw yn teimlo’n well ac yn gobeithio dychwelyd i’r gwaith yr wythnos nesaf. A wnewch chi barhau i ddilyn y canllawiau iechyd er mwyn sicrhau fod pawb yn iach yn ystod gwyliau’r haf.

Mae bob amser yn bwysig arfer technegau anadlu a glanweithdra dwylo, a all leihau’r perygl o ddal a lledu ffliw moch, megis:

Rhoi eich llaw dros eich trwyn a'ch ceg wrth besychu neu disian, a defnyddio hances pan fo'n bosibl.

Taflu hancesi budr ar unwaith, a gwneud hynny’n ofalus.

Sicrhau glanweithdra sylfaenol da, er enghraifft golchi eich dwylo’n aml gyda dŵr a sebon i leihau'r posibilrwydd bod y firws yn lledu o'ch dwylo i'ch wyneb neu i bobl eraill.

Glanhau arwynebau caled (e.e. dolenni drws) yn aml gan ddefnyddio cynnyrch glanhau arferol.


^yn ôl i'r brif restr