Adroddiad pel droed:

Adroddiad pel droed:

13th May 2009

Ysgol Gymraeg Cwmbran v Ysgol Eglwys Henllys

Ddydd Gwener, y 24ain o Ebrill aeth tîm pêl-droed blwyddyn 5 lawr i Ysgol Eglwys Henllys i chwarae gêm bêl-droed. Twymodd y tîm, Thomas(c), Iestyn, Gareth, Ethan, Carl, Ieuan, Lloyd, Rhys ac Abbie, gan basio o gwmpas a saethu. Wedyn, ymestynon ni i wneud yn siwr bod ein cyhyrau yn dwym. Ar ôl ymestyn aethon ni ati i ymarfer pasio gyda’n gilydd.

Cafodd Henllys y gic gyntaf a dechreuodd y gêm (o’r diwedd, HWRE!). Taclodd Ieuan un o chwaraewyr Henllys a dechreuodd Ieuan rhedeg gyda’r bêl nerth ei draed a chroesi’r bêl. Yn anffodus, hedfannodd y bêl dros y gôl. Ciciodd gôl-geidwad Henllys y bêl fel asyn gwyllt syth i Iestyn. Wedyn rhedodd Iestyn fel llewpart hela lawr yr asgell a phasio’n gyflym i Thomas a saethodd Thomas. GÔL! WOW! 1-0!

Nesaf cafodd yr ail gic gychwyn a rhedodd tîm Henllys lawr y canol a saethu ond arbedodd Gareth y bêl yn arbennig!!! Ciciodd Gareth y bel i Iestyn ond neidiodd chwarewyr Henllys o flaen Iestyn a dwyn y bêl. Saethu! O NA GÔL! 1-1.

Dechreuon ni gyda Ethan yn pasio i Iestyn ac Iestyn yn pasio i Thomas. Collodd Thomas y bêl a phasiodd Henllys i’w chwarewyr a rhedon nhw lawr yr asgell ond taclodd Rhys a chiciodd Rhys y bel i Iestyn, croesodd y bêl a saethodd Ethan pan roedd y bêl yn yr awyr. GÔL ARBENNIG!!! 2-1

Pasiodd Sam i Jimmy a roedd Jimmy yn saethu at y gôl ond doedd Gareth methu ymestyn i gyrraedd y bêl. Siom fawr ond dywedodd Mr Rock peidiwch a phoeni codwch eich pennau lan. 2-2. Sgoriodd Iestyn y gôl nesaf gan saethu fel Cristiano Ronaldo syth mewn i gornel uchaf y rhwyd cyn hanner amser. Gol orau’r gem! HWRE! DA IAWN IESTYN! 3-2

Hanner Amser!
Daeth Carl ymlaen yn lle Lloyd. Rhedodd Ieuan trwy’r canol a saethu fel bwled mewn i’r rhwyd.
GOOOOOOOOOL!!!! 4-2

Pasiodd Tom y bêl i Iestyn a saethodd Iestyn i ochr dde y gôl-geidwad a dathlodd Iestyn fel Joe Ledley yn hedfan. Deg munud olaf daeth Abbie ymlaen. Dyna fe,chwythodd y dyfarnwr y chwib olaf HWRRRRE
5-2 i Gwmbran. Roedd Mr Rock yn gwenu o glust i glust. Roedd Rhys yn seren y gêm.

Gan Flwyddyn 5 Mr Rock.


^yn ôl i'r brif restr