Y côr:

Y côr:

22nd January 2009

Dyma rai o'r trefniadau ar gyfer y côr dros yr wythnosau nesaf:

Nos Wener, Chwefror 6ed, 2009:
Cyngerdd yn Neuadd y Sir gyda Chôr Heddlu Gwent ac Ysgol Gyfun Gwynllyw. Bydd y gyngerdd yn dechrau am 7:00 yh ac wedi gorffen erbyn 8:30 yh. Byddwn yn cwrdd yn y cyntedd yno am 6:30yh. Mae tocynnau’n cael eu gwerthu am £5 ac ar gael gyda Ms Painter. Dewch i gefnogi; mae’r arian yn mynd tuag at y trip i Baris.

Nos Lun, Mawrth yr 2il, 2009:
Cyngerdd yn Neuadd y Congress, Cwmbrân. Mae’r côr yn canu yn y gyngerdd hon bob blwyddyn a bydd ein tro ni ar y nos Lun eleni. Gofynnwn i’r plant fod yn y cyntedd erbyn 5:30 yh a byddwn wedi gorffen erbyn 7 ar yr hwyraf. Bydd tocynnau ar gael gan Ms Painter yn agosach at yr amser.

Paris:
Rydym wedi derbyn cadarnhad o amserlen y daith i Baris. Byddwn yn gadael ar y nos Fercher am 11yh felly bydd angen i’r plant fod ar iard yr ysgol yn barod i adael erbyn 10:45 yh. Byddwn wedyn yn cyrraedd Dover mewn pryd i adael am 5yb. Rydym wedi trefnu i ganu ym Mharis brynhawn ddydd Iau ynghyd â’r gyngerdd yn Disney land ar y dydd Gwener.
Arian gwario:
Rydym wedi penderfynu defnyddio’r arian sydd wedi ei gasglu i dalu am fwyd y plant ym Mharis. Bydd y plant yn derbyn brecwast, pecyn cinio a phryd o fwyd yn y nos felly bydd dim angen unrhyw arian gwario am fwyd arnynt. Rydym wedi pederfynu fod £30 yn fwy na digon i fynd gyda nhw, efallai eich bod chi am roi mwy na hyn i’ch plentyn ond ni chaniateir i unrhyw blentyn ddod â mwy na £50.
EUROS: Mae’r Swyddfa Bost wrth yr ysgol wedi dweud ei fod yn mynd i roi arian i ni fynd ar y daith os ydyn ni’n eu cefnogi felly casglwch eich EUROS o’r Swyddfa Bost os ydych chi’n gallu.
Ffurflenni iechyd:
Bydd angen i’r ffurflenni iechyd ddod yn ôl i’r ysgol ac i ddwylo Mr Tilling cyn gynted ag y bo modd. (Bydd rhain yn cael eu rhoi i’r plant yfory)

Diolch yn fawr iawn i Discount Tyres am brynu crysau T a siwmperi i ni fel côr. Gwrthfawrogwn rhain yn fawr iawn a byddwn yn eu gwisgo am y tro cyntaf yng nghystadleuaeth Côr Cymru.
Os oes unrhyw gysylltiadau eraill gyda chi â chwmnioedd fydd â diddordeb yn ein noddi neu gyfrannu at y daith, cysylltwch gyda ni. Nid ydym wedi cyrraedd ein targed eto!


^yn ôl i'r brif restr