Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda

17th December 2008

Diolch yn fawr iawn i’r plant, yr athrawon a’r rhieni am dymor llwyddiannus. Rwy’n siwr y bydd Siôn Corn yn dod draw i Gwmbrân y flwyddyn yma!

Cyfanswm y casgliad ar gyfer yr elusen CLAPA yn ystod y tymor -£568.31

Cyfanswm elw Ffair Nadolig Ysgol Gymraeg Cwmbrân oedd £652

Hoffwn ddiolch yn fawr hefyd i aelodau’r GRhA am eu gwaith caled yn ystod y tymor prysur.

Diolch i Miss Hannah Phillips am gasglu £402 drwy drefnu Ffair Scholastic er mwyn prynu llyfrau ychwanegol newydd i’r Adran Iau

Diolch yn fawr iawn i bawb am eich cyfraniadau

Diwedd Tymor – 19eg o Ragfyr am 12 o’r gloch

Tymor Newydd – 7fed o Ionawr, 2008
(Dydd Mercher)

Hoffwn ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob aelod o deulu mawr Ysgol Gymraeg Cwmbrân

Diolch yn fawr
Edward Wyn Jones


^yn ôl i'r brif restr