Ymweliad gan y delynores, Glenda Clwyd.

Ymweliad gan y delynores, Glenda Clwyd.

24th November 2008

Ar fore dydd Gwener, cafodd plant yr ysgol gyfan eu gwahodd i’r neuadd ar gyfer perfformiad gan y delynores.

Roedd gan Glenda Clwyd dair telyn gyda hi, o rannau gwahanol o’r byd a chafwyd perfformiad ar bob un. Clywodd y plant amrywiaeth o ganeuon ac alawon Cymreig yn ogystal â gwybodaeth am hanes y delyn.

Mae llawer o’r plant yn cael gwersi telyn yn yr ysgol felly braf oedd gweld telynores yn perfformio o’u blaenau.


^yn ôl i'r brif restr