Trefniadau'r côr:

Trefniadau'r côr:

17th November 2008

Mae llawer o bethau ymlaen gyda'r côr dros yr wythnosau nesaf felly dyma rai o'r dyddiadau i chi gadw:

20/11/08 – Nos Iau:
Bydd ymarfer côr fel arfer nos Iau ar ôl ysgol tan 5:30. Ar ddiwedd yr ymarfer, hoffwn gwrdd â’r rhieni i drafod rhywbeth sydd gyda ni yn y flwyddyn newydd. (yn lle’r cyfarfod ar y 4/12/08) Mae’n bwysig iawn fod rhywun o’r teulu yn bresennol. Os nad ydych chi’n gallu dod, a wnewch chi drefnu fod rhywun arall yn y cyfarfod yn cymeryd nodiadau ar eich cyfer.

Cyngerdd Côr Meibion: 22/11/08:
Bydd y plant yn canu gyda Chôr Meibion Pontnewydd nos Sadwrn. Unwaith eto, bydd angen i’ch plentyn wisgo’r wisg ysgol lawn ar gyfer y gyngerdd hon.

Gofynnwn i’r plant fod yng Nghanolfan Byddin yr Iachawdwrieth yn Wesley Street erbyn 6 yh. Bydd angen i ni ymarfer un cân gyda’r côr meibion. Bydd y gyngerdd wedi gorffen erbyn 9 o’r gloch. Mae tocynnau ar gael gyda Mrs Painter am £5.

2/12/08 – Nos Fawrth:
Rydym wedi cael gwahoddiad i ganu ar gyfer rhieni plant meithrin y BBC ar yr ail o Ragfyr, Mae bws wedi ei drefnu i Gaerdydd ar gyfer y gyngerdd felly bydd y plant yn aros ar ôl ysgol ac yn cael eu cludo i’r gyngerdd ac yn ôl i’r ysgol erbyn 7yh. Bydd angen gwisg y côr ar eich plentyn a phecyn bwyd ar y diwrnod hwnnw.

Dyma restr o’r ymarferion ac unrhyw ddyddiadau pwysig sydd angen eu nodi:

20/11/08: Ymarfer tan 5:30
(Cyfarfod i’r rhieni ar ôl yr ymarfer)
22/11/08: Cyngerdd Côr Meibion.
27/11/08: Dim ymarfer.
02/12/08: Cyngerdd yng Nghaerdydd
04/12/08: Ymarfer tan 5:30
11/12/08: Ymarfer tan 5:30.
18/12/08: Dim ymarfer.

Da iawn i bawb gystadlodd gyda chystadleuaeth Côr Cymru dydd Sadwrn a diolch i bawb ddaeth i gefnogi gyda Sul yr Urdd ddoe.

Diolch yn fawr i'r rhieni am eu holl gefnogaeth gyda'r ymarferion a'r cyngherddau i gyd.


^yn ôl i'r brif restr