Cyhoeddiadau'r PTA:

Cyhoeddiadau'r PTA:

7th November 2008

Bydd y Ffair Nadolig yn cael ei chynnal ar ddydd Gwener, yr 28ain o Dachwedd am 3:30yh.

Bydd y Ffair yn cael ei chynnal yn yr ysgol ac, fel arfer, bydd amrywiaeth o stondinau, gemau a chrefftau i'r plant. Bydd raffl ac ymweliad gan Sion Corn wrth gwrs.

Rydym yn ddiolchgar iawn o unrhyw gyfraniadau o lyfrau, DVDs, gemau, fideos, gwisg ysgol, teganau, gwobrau i'r raffl neu unrhyw beth arall sydd gyda chi.

Os ydych chi ar gael i helpu gyda'r ffair ar y noson, byddwn yn ddiolchgar iawn o'ch cefnogaeth. Cysylltwch gyda unrhyw un o aelodau'r PTA ar gyfer hyn,

Bydd eich plentyn yn dod â bocs plastig adre a gofynwn yn garedig i chi lenwi'r bocsys â gwerth £1 o nwyddau. Bydd angen i'r losin fod yn eu pecynnau os gwelwch yn dda.

Unwaith eto, edrychwn ymlaen i'ch gweld yn y ffair gan fod eich cymorth yn cael ei werthfawrogi'n fawr.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr