Cyngerdd y côr:

Cyngerdd y côr:

25th September 2008

Mae’r côr yn teithio i Gaerdydd nos Fawrth ar gyfer cyngerdd gynta’r flwyddyn.

Dyma’r trefniadau ar gyfer nos Fawrth:

Bydd y rheiny sydd yng Ngwmbrân yn barod yn aros ar ôl ysgol a gofynwn yn garedig i’r rhai sydd yng Ngwynllyw i ddod i’r ysgol yn syth o’r bws er mwyn i ni ymarfer. Gallwch ddod â bwyd ychwanegol i’r ysgol ond bydd creision a diod ar gael i chi yng Nghaerdydd.

Byddwn yn gadael ar y bws i Gaerdydd am 6:30 a gobeithiwn fod yn ôl yn yr ysgol erbyn 20:45 – 21:00 felly gofynwn yn garedig i’r rhieni fod yno erbyn hynny os gwelwch yn dda.

Y wisg ar gyfer y noson fydd trowsus du, crys gwyn a thei yr ysgol (Mae rhai ar gael yn yr ysgol os oes angen)

Diolch yn fawr iawn.


^yn ôl i'r brif restr