Siocled Diwrnod y Llyfr:

Enillwyr y siocled

6th March 2026

Diolch i bawb brynodd siocled arbennig ar gyfer ein dathliadau Diwrnod y Llyfr.

Prynwyd 384 o fariau siocled arbennig ddoe.

Gwnaed cyfanswm o £712.50 o elw ar y bariau hyn ac rydym yn ddiolchgar iawn i Dunelm, Cwmbrân, SPAR a Tesco am eu cyfraniadau hael, gan wneud ein cyfanswm tuag at yr Eisteddfod hyd yn oed yn uwch.

Diolch hefyd i bawb a helpodd gyda'r lapio a phrynu'r holl fariau siocled.

Cam arall yn nes at ein targed yn Nhorfaen!

Da iawn i'r 40 o enillwyr a ddaeth o hyd i docyn aur!

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr