Gêm bêl-droed Blwyddyn 6:
23rd April 2026
Roedd disgyblion Blwyddyn 6 yn ddigon lwcus i gael chwarae gêm bêl-droed yn erbyn cyflwynwyr STWNSH ddoe.
Aeth 21 o ddisgyblion Blwyddyn 6 i Barc Spitty i chwarae yn erbyn naw cyflwynydd STWNSH.
Cafodd y disgyblion lawer o hwyl yn ystod y prynhawn, yn chwarae ynghyd ag ysgolion eraill o'r ardal.
Bydd y gêm bêl-droed yn cael ei darlledu ar S4C cyn hir.
Da iawn i bawb!
