Diwrnod coch, gwyn a gwyrdd:

Logo Eisteddfod yr Urdd 2027

11th January 2026

Ar ddydd Gwener, Ionawr 23ain, byddwn yn cynnal diwrnod coch, gwyn a gwyrdd yn yr ysgol.

Gall y disgyblion wisgo un o’r lliwiau hyn, neu bob un, neu wisg anffurfiol i’r ysgol. Bydd yr holl arian a gesglir yn mynd tuag at ein targed i Eisteddfod yr Urdd 2027.

Gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniadau ariannol ar y diwrnod.

Byddwn hefyd yn cynnal cystadleuaeth liwio, a daeth templed ar gyfer hwn adref gyda’r disgyblion nos Wener.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr