Casgliad i'r banc bwyd lleol:

16th October 2025
Byddwn yn gwneud casgliad i’r banc bwyd lleol ddydd Iau nesaf, fel rhan o’n dathliadau diolchgarwch.
Mae’r prif swyddogion wedi ymweld gyda’r banc bwyd yr wythnos hon er mwyn gweld pa fwydydd sydd eu hangen arnynt:
Bwydydd sydd eu hangen:
Llysiau a chig mewn tun
Coffi
Cawl
Cwstard
Llaeth ‘bywyd hir’
Pwdinau
Papur tŷ bach
Bwydydd sydd ganddynt:
Pasta
Ffa pob
Grawnfwyd
Yn amlwg, mae’r banc bwyd yn ddiolchgar am unrhyw gyfraniad felly gwerthfawrogwn unrhyw beth ar y diwrnod.
Diolch yn fawr iawn.