Cystadleuaeth Cogurdd:

11th October 2025
Da iawn i bawb yng nghystadleuaeth 'Cogurdd' ddoe.
Cymerodd chwech o ddisgyblion ran yng nghystadleuaeth goginio'r Urdd, gan gyflwyno brechdan agored.
Gweithiodd yr holl ddisgyblion yn galed iawn ac roedd yr holl frechdanau yn hyfryd.
Cafodd y disgyblion eu barnu ar eu cyflwyniad, eu glendid, a blas eu brechdan.
Pob lwc i'r enillydd yn y rownd nesaf, a da iawn i bob disgybl a gymerodd ran.
Da iawn!