Penwythnos Llangrannog:

11th October 2025
Cafwyd penwythnos hyfryd yn Llangrannog y penwythnos diwethaf.
Teithiodd 25 o ddisgyblion a 9 aelod o staff i Langrannog o ddydd Gwener tan ddydd Sul.
Roedd y penwythnos yn llawn gweithgareddau gwahanol, a mwynhaodd pawb eu hamser yng ngwersyll yr Urdd.
Diolch yn fawr iawn i bob aelod o staff a roddodd eu hamser i roi profiadau ac atgofion mor hyfryd i'r disgyblion.
Diolch yn fawr.