Cydweithio gydag Ysgol Henllys:

Sesiwn gyda Ffa-La-la

7th October 2026

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn gweithio'n agos gydag Ysgol Henllys a Ffa-La-La.

Heddiw oedd ein sesiwn gyntaf, a daeth 16 o ddisgyblion i dreulio'r bore gyda ni. Cawsom wledd o gerddoriaeth gyda Carys o Ffa-La-La. Roedd yn hyfryd gallu ymarfer patrymau iaith ac ymadroddion Cymraeg gwahanol gyda'n gilydd.

Edrychwn ymlaen at ein hail sesiwn wythnos nesaf.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr