Ymweliad â'r banc bwyd lleol:
7th October 2026
Heddiw, aeth ein prif swyddogion i'r banc bwyd lleol yn Eglwys Byddin yr Iachawdwriaeth.
Gwelodd y disgyblion drostynt eu hunain beth oedd ei angen i redeg y banc bwyd. Cawsant gyfle i baratoi pecynnau bwyd, ac maent wedi llunio rhestr o'r eitemau sydd eu hangen fwyaf ar y banc bwyd.
Cynhelir ein gwasanaeth diolchgarwch ar ddydd Mercher, 21 Hydref, a byddwn yn casglu eitemau ar gyfer y banc bwyd ar y diwrnod hwnnw.
Dyma'r eitemau sydd eu hangen fwyaf arnynt:
Bwyd:
llaeth UHT
sudd ffrwythau
saws pasta
tomatos mewn tun
pwdin reis
tatws mewn tun
cig mewn tun
Eitemau ymolchi:
'deodorant'
siampŵ
'conditioner'
gel cawod
past dannedd
brwsh dannedd
Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniad ar y diwrnod.
Diolch yn fawr.
