Llangrannog:

Disgyblion yn mwynhau yn Llangrannog

6th October 2026

Aeth 35 disgybl o flwyddyn 6 i Langrannog dros y penwythnos.

Cafodd y disgyblion, ynghyd â 7 aelod o staff, benwythnos hyfryd yng ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog.

Roedd yr haul allan drwy'r penwythnos, a mwynhaodd y disgyblion amrywiaeth eang o weithgareddau, o sgïo i wibgartio, ac o'r weiren sip i feiciau modur.

Diolch i bob aelod o staff a roddodd eu hamser ar y penwythnos i roi atgofion i'r disgyblion a fydd yn para am byth.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr