Perfformiad gan 'Mewn Cymeriad':
17th September 2026
Diolch i'r cwmni drama 'Mewn Cymeriad' am ddod i berfformio i ddisgyblion Blynyddoedd 5 a 6 heddiw.
Fel rhan o'n gwaith ar y thema 'mudo', gwyliodd y disgyblion berfformiad am daith y 'Mimosa' i Batagonia.
Roedd yn awr llawn hwyl yn dysgu am y rheswm mae pobl ym Mhatagonia yn siarad Cymraeg hyd heddiw.
Diolch yn fawr.
