Gŵyl groeso Eisteddfod yr Urdd:
13th July 2026
Fel rydych yn gwybod, bydd Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Tredegar flwyddyn nesaf.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o'r dathliadau yn arwain lan at yr Eisteddfod, ac rydym yn gobeithio y bydd llawer o'n disgyblion yn cymryd rhan yn y cyfleoedd amrywiol fydd ar gael iddynt.
Cynhelir gŵyl groeso ar ddydd Sadwrn, 26 Medi, ac rydym yn gobeithio gweld cymaint o ddisgyblion â phosibl yno. Bydd ysgolion o'r ardal leol yn gorymdeithio trwy rannau o Gasnewydd, a dylai fod yn ddiwrnod hyfryd!
Diolch yn fawr.
