Jambori yr Urdd:

Jambori yr Urdd:

10th November 2022

Ymunodd y disgyblion â dros 1000 o ysgolion eraill y bore yma i gyd-ganu yn y Jambori.

Trefnodd yr Urdd Jambori arbennig heddiw, er mwyn dathlu’r ffaith fod Cymru yn cystadlu yng Nghwpan y Byd ymhen rhai wythnosau. Ymunodd y disgyblion ag ysgolion eraill trwy Zoom i ganu rhai caneuon traddodiadol ac ychydig o rai newydd a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer tîm pêl-droed Cymru.

Hyfryd oedd canu ‘Yma o hyd’ gyda Dafydd Iwan hefyd.

Diolch i’r Urdd a phob lwc enfawr i Gymru.


^yn ôl i'r brif restr