Gwersi Cymorth Cyntaf:

Gwersi Cymorth Cyntaf:

25th September 2022

Roeddem yn hapus i groesawu gwirfoddolwraig o Ambiwlans St. John i'r ysgol yr wythnos hon.

Thema ein prynhawn lles ddydd Mercher oedd Cymorth Cyntaf felly gwahoddwyd Ambiwlans St. John i'r ysgol am y diwrnod.

Dechreuodd y diwrnod gyda gwasanaeth ysgol gyfan am Gymorth Cyntaf e.e. pwy i ffonio a beth i'w wneud mewn argyfwng. Am weddill y dydd, derbyniodd disgyblion blynyddoedd 3, 4 a 5 weithdai Cymorth Cyntaf.

Bydd disgyblion blwyddyn 6 hefyd yn derbyn gweithdy Cymorth Cyntaf gyda chwmni 'Mini First Aid' ddydd Mawrth.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr