Gwersi cerdd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Gwersi cerdd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

25th September 2022

Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi y bydd holl ddisgyblion yr ysgol yn derbyn gwersi offerynnol eleni.

Gyda chyflwyniad Cwricwlwm i Gymru, mae’n hanfodol bod pob disgybl yn cael cwricwlwm eang a chytbwys ac rydym wedi gwneud y Celfyddydau Mynegiannol yn flaenoriaeth ar gyfer y tymor hwn. Rydym wedi sicrhau bod holl ddisgyblion yr ysgol yn derbyn gwersi cerdd, ac isod ceir gwybodaeth ar y gwersi hyn:

Mae holl blant y Cyfnod Sylfaen (meithrin i flwyddyn 2) bellach yn cael sesiynau cerdd a chreadigol Ffa La La bob dydd Mawrth.

Mae plant Blwyddyn 2 (dosbarth Mr Arlotte) wedi dechrau eu gwersi ffidil gyda Cherddoriaeth Gwent ar ddydd Gwener a bydd rhain yn parhau am dymor a hanner. Bydd dosbarth Miss Morris wedyn yn derbyn y gwersi hyn am weddill y flwyddyn.

Fel rhan o’r Cynllun Cenedlaethol newydd ar gyfer Addysg Cerddoriaeth, mae pob disgybl blwyddyn 3 yng Nghymru yn cael cyfle i ddysgu’r pBuzz yn rhad ac am ddim am un tymor a bydd y gwersi hyn yn dechrau ddydd Mercher gyda Cherddoriaeth Gwent.

Bydd disgyblion blwyddyn 3 a 4 yn derbyn gwersi glockenspiel gyda Cherdd Torfaen o ddydd Gwener ymlaen.

Mae disgyblion blynyddoedd 5 a 6 eisoes wedi dechrau eu gwersi drymio gydag Upbeat a bydd y gwersi hyn yn parhau bob dydd Iau am y flwyddyn.

Gobeithiwn eich bod yn cytuno bod y gwersi hyn mor werthfawr i’n holl ddisgyblion.

Mae gwersi unigol ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 hefyd ar gael yn yr ysgol gydag athrawon o Gerddoriaeth Gwent. Cost y gwersi hyn yw £50 am y tymor ac, os hoffech i’ch plentyn dderbyn y gwersi hyn, cysylltwch â swyddfa’r ysgol.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr