Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

19th November 2020

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw du.

Dydd Mercher:

Sesiwn bêl-droed gyda 'County in the community' ar gyfer dosbarth Mr Bridson.
(Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu cit ymarfer corff, os ydynt yn dymuno.)

#Wheelie Wednesday:
Bob dydd Mercher, rydyn ni'n annog y disgyblion i gerdded i'r ysgol neu ddod ar sgwter neu feic os oes modd iddynt wneud hynny.

Prynhawn lles:
Y thema ar gyfer ein prynhawn lles heddiw yw hunan ddelwedd.

Dydd Gwener:

Diwrnod coch, gwyn a gwyrdd:
Gall y disgyblion ddod i’r ysgol mewn dillad coch, gwyn a gwyrdd, os ydynt yn dymuno. Byddwn yn casglu arian ar gyfer yr Urdd felly gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad.

Gwasanaeth disgybl yr wythnos.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr