Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

12th November 2020

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw brown.

*Wythnos Gwrth-fwlio*

Dydd Mercher:

Sesiwn bêl-droed gyda 'County in the community' ar gyfer dosbarth Mr Bridson.
(Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu cit ymarfer corff, os ydynt yn dymuno.)

Diwrnod Byddwch lachar:
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol mewn dillad llachar / eitem lachar os ydynt yn dymuno. Byddwn yn cymryd rhan yn 'Diwrnod Byddwch Lachar' er mwyn lansio #Wheelie Wednesday unwaith eto.
Bob dydd Mercher, rydyn ni'n annog y disgyblion i gerdded i'r ysgol neu ddod ar sgwter neu feic os oes modd iddynt wneud hynny.

Dydd Iau:

Bydd disgyblion blwyddyn 5 Miss Broad yn derbyn cwrs hyfforddiant 'Play Maker' gan Swyddog Datblygu Chwaraeon heddiw. (Gall y disgyblion wisgo eu cit ymarfer corff i'r ysgol, os ydynt yn dymuno.)

Dydd Gwener:

Bydd disgyblion dosbarth Mr Price yn derbyn cwrs hyfforddiant 'Play Maker' gan Swyddog Datblygu Chwaraeon heddiw. (Gall y disgyblion wisgo eu cit ymarfer corff i'r ysgol, os ydynt yn dymuno.)

Imiwneiddio Ffliw ar gyfer disgyblion y derbyn - blwyddyn 6.

Gwasanaeth disgybl yr wythnos.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr