Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

8th November 2020

Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos hon yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw pinc.

Dydd Mercher:

Sesiwn bêl-droed gyda 'County in the community' ar gyfer dosbarth Mr Bridson.
(Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu cit ymarfer corff, os ydynt yn dymuno.)

Prynhawn lles:
Thema ein prynhawn lles yr wythnos hon yw 'Cymorth Cyntaf'.

Dydd Iau:

Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn cymryd rhan mewn cwis ar-lein, sy'n cael ei drefnu gan Menter Iaith, y bore yma.

Dydd Gwener:

Diwali - Byddwn yn dysgu am yr ŵyl olau heddiw.

Plant Mewn Angen - Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu pyjamas / gwisg anffurfiol heddiw, os ydynt yn dymuno. Mae croeso i'r disgyblion roi rhodd ariannol yn un o'n bwcedi a fydd y tu allan i'r ysgol, neu'n uniongyrchol i Blant Mewn Angen, trwy eu gwefan. (Gweler y ddolen isod.)

Dydd Sadwrn:

Diwrnod Diabetes y Byd.
(Gweler y llythyr yn adran 'Llythyron Adref' y wefan.)

Diolch yn fawr.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr