Diwrnod Diabetes y Byd:

Diwrnod Diabetes y Byd:

8th November 2020

Mae’n ddiwrnod Diabetes y Byd ddydd Sadwrn - gweler llythyr gan Rwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc.

Mae’r GIG wedi gofyn i’r neges hon gael ei hanfon allan atoch gan ei bod yn Ddiwrnod Diabetes y Byd y penwythnos hwn.

Mae angen sylw meddygol brys ar ddiabetes Math 1 mewn plant, sydd heb gael diagnosis.

Os oes gan eich plentyn UNRHYW un o brif symptomau diabetes Math 1 gwnewch apwyntiad brys gyda’ch meddyg teulu neu cysylltwch â’r gwasanaeth Tu Allan i Oriau. Y 4 prif 4 symptom yw - syched, mynd i’r toiled yn aml, blinder, colli pwysau (‘4 Ts’ yn Saesneg – Thirst, Toilet, Tiredness, Thinner). Os ydych yn sylwi bod eich plentyn yn sychedig neu’n mynd i’r toiled yn fwy aml, yn teimlo’n flinedig drwy’r amser, neu wedi colli pwysau’n ddiweddar, ceisiwch gyngor meddygol ar unwaith.

Mae gan wasanaethau’r GIG ddigonedd o adnoddau i ofalu am blant yn ddiogel os ydynt yn sâl. Peidiwch ag oedi cyn ceisio cyngor meddygol oherwydd Covid-19.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y wefan isod.

Diolch yn fawr.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr