Gwasanaeth Diolchgarwch:

Gwasanaeth Diolchgarwch:

12th October 2020

Ar ddydd Iau, Hydref 22ain, byddwn yn cynnal ein gwasanaeth diolchgarwch. Gofynnwn yn garedig am roddion o fwyd / tuniau bwyd ar gyfer y banc bwyd lleol ar y diwrnod hwn.

Bydd bocsys gollwng gwahanol ar yr iard (Un o flaen yr ysgol, un ar iard Cyfnod Allweddol 2 ac un tu fas i’r feithrin) a gall y disgyblion ollwng eu rhoddion yn y bocsys hyn ar y ffordd mewn i’r ysgol. Byddwn yn derbyn rhoddion ar y diwrnod hwn yn unig.

Bydd y Banc Bwyd lleol yn ddiolchgar am unrhyw roddion ond dyma'r pethau sydd eu hangen fwyaf ar hyn o bryd:

tuniau o foron
tuniau o ffrwythau
pwdin reis
cwstard
squash
mash
tatws mewn tun

Dyma rai syniadau eraill:

llysiau tun
grawnfwyd
pasta
tuniau o gig
tuniau o bysgod
tomatos tun
saws pasta
coffi
te
siwgr
llaeth UHT
bisgedi
tuniau cwstard
pethau ymolchi e.e. past dannedd / diaroglydd / siampŵ / sebon / gel cawod
cawl
uwd
ffa pob

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr