Diwrnod y Llyfr:

Diwrnod y Llyfr:

6th March 2020

Cafwyd diwrnod hyfryd yn yr ysgol ddoe, wrth ddathlu Diwrnod y Llyfr.

Ddoe, mwynhaodd y disgyblion ddathlu Diwrnod y Llyfr wrth wneud nifer o wahanol weithgareddau. Aeth disgyblion blynyddoedd 5 a 6 i Theatr Glan yr afon yng Nghasnewydd i weld nifer o awduron a darlunwyr. Mae pob dosbarth wedi cynllunio drws fel clawr llyfr a fydd yn cael ei feirniadu gan y 'Criw Cymraeg' ar ddiwedd y dydd heddiw.

Mwynhaodd yr ysgol gyfan sioe ffasiwn ar ddiwedd y dydd hefyd lle cafodd y disgyblion gyfle i arddangos eu gwisgoedd.

Da iawn i bawb a diolch am eich holl ymdrechion.


^yn ôl i'r brif restr