Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

5th March 2020

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Dydd Llun:
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 2 a 3 tan 4:30.
Bydd rhai o ddisgyblion blwyddyn 4 yn mynd ar daith dros nos i Gaerdydd heddiw - bydd y disgyblion yn gadael am 09:30.

Dydd Mawrth:
Taith blwyddyn 4: Bydd y disgyblion yn ôl yn yr ysgol cyn diwedd y dydd.
Clwb pêl-droed tan 4:30 ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 .
Clwb coginio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 tan 4:30.
Ymarfer dawnsio disgo i'r rheiny sy'n cystadlu yn yr Eisteddfod tan 4:30.

Dydd Mercher:
Wheelie Wednesday: Rydym yn annog y disgyblion i ddod i'r ysgol drwy gerdded neu ddefnyddio beic neu sgwter heddiw.
Gweithdy clocsio ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarth Miss Williams.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.

Dydd Iau:
Ymarfer côr ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 ar ôl ysgol tan 4:30.

Dydd Gwener:
Sports Relief: Gall y disgyblion wisgo dillad eu hunain / dillad chwaraeon / gwisg 'wacky' / het 'wacky' ayyb i'r ysgol heddiw, os ydynt yn dymuno. Bydd y disgyblion yn rhedeg ras a gofynnwn yn garedig am gyfraniad tuag at Sports Relief.
Gwers ffidil i blant blwyddyn 2 dosbarth Miss Emery.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr