Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

27th February 2020

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Dydd Llun:
Byddwn yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi heddiw – gall y disgyblion ddod i’r ysgol yn eu gwisgoedd traddodiadol, crysau rygbi neu bêl-droed ayyb, os ydynt yn dymuno. Byddwn yn cynnal Eisteddfod ysgol yn y bore.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 2 a 3 tan 4:30.

Dydd Mawrth:
Clwb pêl-droed tan 4:30 ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 .
Clwb coginio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 tan 4:30.
Ymarfer dawnsio disgo i'r rheiny sy'n cystadlu yn yr Eisteddfod tan 4:30.

Dydd Mercher:
Wheelie Wednesday: Rydym yn annog y disgyblion i ddod i'r ysgol drwy gerdded neu ddefnyddio beic neu sgwter heddiw.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarth Miss Williams.
Gweithdai ‘Crucial Crew’ ar gyfer disgyblion blwyddyn 6. (12:30-2:30)
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.

Dydd Iau:
Diwrnod y Llyfr: Gall y disgyblion ddod i’r ysgol fel cymeriad o lyfr heddiw, os ydynt yn dymuno.
Taith blynyddoedd 5 a 6: Gall y disgyblion wisgo eu gwisgoedd 'Diwrnod y Llyfr' a bydd angen pecyn cinio arnynt os gwelwch yn dda.
Ymarfer côr ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 ar ôl ysgol tan 4:30.

Dydd Gwener:
Gall disgyblion dosbarth Miss Mullane wisgo gwisg anffurfiol i'r ysgol heddiw, os ydynt yn dymuno, gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Chwefror.
Gwers ffidil i blant blwyddyn 2 dosbarth Miss Emery.


^yn ôl i'r brif restr