Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

13th February 2020

Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos ar ôl hanner tymor yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Dydd Llun:
Does dim ysgol i’r disgyblion heddiw – diwrnod hyfforddiant i’r staff.

Dydd Mawrth:
Clwb pêl-droed tan 4:30 ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 .
Clwb coginio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 tan 4:30.
Ymarfer dawnsio disgo i'r rheiny sy'n cystadlu yn yr Eisteddfod tan 4:30.
Dydd Mercher:
Wheelie Wednesday: Rydym yn annog y disgyblion i ddod i'r ysgol drwy gerdded neu ddefnyddio beic neu sgwter.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarth Miss Williams.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.

Dydd Iau:
Cystadleuaeth bêl-droed merched yn Stadiwm Cwmbrân.
(Mae'r rheiny sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr. Bydd angen iddynt wisgo dillad ymarfer corff a dod â phecyn cinio os gwelwch yn dda.)
Ymarfer côr ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 ar ôl ysgol tan 4:30.

Dydd Gwener:
Gwers ffidil i blant blwyddyn 2 dosbarth Miss Emery.
Bydd 8 disgybl o flwyddyn 6 yn mynd i'r cartref henoed lleol prynhawn 'ma.


^yn ôl i'r brif restr