Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

7th February 2020

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

* Wythnos Menter a Busnes *

Patrwm iaith yr wythnos yw i ddefnyddio berfau gorchmynnol e.e. 'Cer' ac 'Ewch'.

Dydd Llun:

* Caffi: Croeso i rieni y derbyn a blwyddyn 1 ymuno gyda ni rhwng 2:30 a 3:15. *

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 2 a 3 tan 4:30.
(Mae hwn yn cael ei dalu yn uniongyrchol drwy'r Urdd.)

Dydd Mawrth:

Diwrnod Diogelwch ar y we.

Gweithdy pontydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 – merched blwyddyn 5 yn y bore / merched blwyddyn 6 yn y prynhawn.

Clwb pêl-droed tan 4:30 ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 .

Clwb gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30.

Ymarfer dawnsio disgo i'r rheiny sy'n cystadlu yn yr Eisteddfod tan 4:30.

Dydd Mercher:
Wheelie Wednesday: Rydym yn annog y disgyblion i ddod i'r ysgol drwy gerdded neu ddefnyddio beic neu sgwter.

Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarth Miss Westphal.

Ffair ieithoedd modern i rai disgyblion blwyddyn 6.
(Mae'r rheiny sy'n mynd wedi derbyn llythyr. Bydd angen iddynt gwisg ysgol a dod â phecyn cinio os gwelwch yn dda.)

* Caffi: Croeso i rieni blynyddoedd 2 a 3 i ymuno gyda ni rhwng 2:30 a 3:15. *

Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.

Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.

Dydd Iau:

Cystadleuaeth rygbi'r Urdd.
(Mae'r rheiny sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr. Bydd angen iddynt wisgo dillad ymarfer corff a dod â phecyn cinio os gwelwch yn dda.)

* Caffi: Croeso i rieni blynyddoedd 4, 5 a 6 ymuno gyda ni rhwng 2:30 a 3:15. *

Ymarfer côr ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 ar ôl ysgol tan 4:30.

Dydd Gwener:

Gwasanaeth fiolin i ddosbarth Miss Hughes - 09:30 yn neuadd yr ysgol.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr