Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

23rd January 2020

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Patrwm iaith yr wythnos yw 'Ydy e ...? / Ydy hi ....?

* Mae gweithdai i'r teulu ymlaen yr wythnos hon - gweler yr amseroedd isod. *

Dydd Llun:

Gweithdy dosbarth Mr Price: 10:45 - 11:30.
Gweithdy dosbarth Miss Mullane: 1:30 - 2:15.
Gweithdy dosbarth Miss Thomas: 2:30 - 3:15

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 2 a 3 tan 4:30.
(Mae hwn yn cael ei dalu yn uniongyrchol drwy'r Urdd.)

Dydd Mawrth:

Gweithdy dosbarth Miss Broad: 10:45 - 11:30.
Gweithdy dosbarthiadau Miss Sheppeard a Mrs Dalgleish: 2:30 - 3:15.

Clwb pêl-droed tan 4:30 ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 .
Clwb gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30.
Ymarfer dawnsio disgo i'r rheiny sy'n cystadlu yn yr Eisteddfod tan 4:30.
(Mae'r rhai sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr.)

Dydd Mercher:
Wheelie Wednesday: Rydym yn annog y disgyblion i ddod i'r ysgol drwy gerdded neu ddefnyddio beic neu sgwter.
Sesiynau yoga ar gyfer disgyblion o'r derbyn i flwyddyn 3.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarth Miss Westphal.

Gweithdy dosbarthiadau Miss Hughes a Miss Emery: 2:30-3:15.
Prynhawn agored lles rhwng 2:30 a 4:30.
(Dewch am baned ac i edrych o gwmpas y stondinau amrywiol.)

Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.

Dydd Iau:

Gweithdy dosbarth Mr Bridson: 10:45 - 11:30.
Gweithdy dosbarth Miss Westphal: 1:30 - 2:15.

Ymarfer côr ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 ar ôl ysgol tan 4:30.

Dydd Gwener:

Gweithdy dosbarth Miss Passmore: 10:45 - 11:30.
Gweithdy dosbarth Miss Williams: 1:30 - 2:15.

Gwers fiolin i ddosbarth Miss Hughes.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr